The act of mask-wearing offers a profound liminal experience, bridging the realms of the seen and unseen. For me, it is both a deeply personal practice and a connection to my Welsh heritage, where the bardic tradition thrived as a wellspring of storytelling, performance, and spiritual expression. The use of masks and archetypal personas in ritual performance—though wearing masks was not explicitly documented in Welsh bardic traditions— there are echoes a universal human practice of embodying something greater than oneself .
In the Mabinogion, the mythic tales of Wales, the bard Taliesin emerges as a figure of transformation and divine inspiration. According to Dr Gwilym Morus -Baird, “As far as we know, the medieval Welsh bards didn’t use masks in performance, but they’d take on archetypal personas such as that of the legendary Taliesin. Some suggest these performances were a form of ancestral channelling.” This suggests that, while masks themselves may not have been worn, the essence of mask-wearing—the stepping into another identity while performing, even that of an ancestor or spiritual force/ god—was integral to bardic practice.
The Universal Practice of Mask-Wearing in Ritual and Performance
Across cultures, mask-wearing has been used to evoke ancestral spirits, embody otherworldly beings, or enter a trance-like state for performance (usually with music also). This universal practice hints at a deep human need to connect with the divine or the supernatural through embodied ritual. As Gwilym notes, such performances are “not easily dismissed; they are fundamental to what it means to be human.” The act of putting on a mask creates a liminal space where the wearer is both present and absent—a paradoxical state that blurs the boundaries between the self and the other.
For me, this act is deeply healing and transformative. During my practice based research of wearing the teapot mask and performing, I feel as though I am channelling a force beyond myself, one that can be harnessed for good and healing. However, I approach this practice with caution, mindful of the energies I seek to channel. I intend to embody light and healing of true organic unity conciousness, in my studio time and on the sharing infront of an audience, I do step into the world of shadow, wearing my trauma so that it can then be seen and shredded, I do not to invite malevolent forces.
Creativity and Channeling in the Bardic Tradition
The bardic tradition, central to Welsh culture, was rooted in oral storytelling and performance. Bards who performed Taliesin served as living vessels of ancestral knowledge, preserving and performing ancient texts. Their work was often described as being guided by divine inspiration or the breath of the spirit—a concept echoed in many traditions. Gwilym describes this process as “a spirit being breathed into the body as you perform,” a powerful metaphor for creativity as an act of channelling something greater than oneself.
As a creative person, I resonate deeply with this idea. In moments of artistic flow—whether in pottery, painting, voice, or dance—it often feels as though something outside of me is guiding the process. This phenomenon, described across cultures as divine grace or supernatural inspiration, reinforces my belief that creativity is a birthright, an expression of our inherent divinity. It is only trauma that blocks this natural flow, separating us from the creative force as fundamental as breath.
The Paradox of the Mask
The act of mask-wearing deepens this connection to the divine of which the the Welsh name for ths is Annwn. As Inih A. Ebong writes in Mask and Masking, “The act of masking is an embodied paradox: the wearer has a face and a not-face. He is transformed by that which dehumanizes him.” The mask hides the performer’s face while making the supernatural visible. This paradoxical state—where the performer is both present and absent—creates a liminal position. The performer becomes a vessel, allowing something unseen to act through them.
In Welsh bardic tradition, this liminality is reflected in the idea of embodying ancestral voices. It is easy to imagine how a bard performing Taliesin, might feel possessed by the presence of those who came before them. Mask-wearing, in this sense, becomes an extension of this channelling—a physical manifestation of the unseen spirit passing through the performer.
Mask-wearing as a creative practice connects me to the universal human tradition and the Welsh bardic tradition of embodying something greater than oneself. When I put on a mask in performace I feel freed up, an open vessel, for me, the mask is a powerful symbol of transformation, a bridge between the visible and the invisible, and a way to access the deep well of creativity and healing that resides within all of us. It is a reminder that we are both human and have divinity flowing through us, capable of stepping into the liminal spaces where true magic happens.

Drwy’r Mwgwd: Porthol i Draddodiad Barddol Cymru
Gall y weithred o wisgo mwgwd fod yn brofiad grymus, gan agor porthol sy’n ein galluogi i bontio teyrnasoedd y gweladwy a’r anweladwy. I mi, mae’n ymarfer hynod bersonol ac yn fy nghysylltu â’m hetifeddiaeth Gymreig, ble’r oedd y traddodiad barddol yn ffynnu drwy arferion cerdd dafod, perfformiadau a mynegiant ysbrydol. Mae’r defnydd o’r mwgwd a phersonas archdeipaidd mewn perfformiadau defodol—er nad oes tystiolaeth benodol o draddodiad barddol Cymru yr arferid gwisgo mygydau—yn adleisio’r arfer sydd i’w weld mewn diwylliannau ar draws y byd o ymgorffori rhywbeth sy’n fwy na ni’n hunain.
Yn y Mabinogi, hanesion chwedlonol Cymru, mae’r bardd Taliesin yn ffigur o drawsnewidiad ac ysbrydoliaeth ddwyfol. Yn ôl Dr Gwilym Morus-Baird, “Hyd y gwyddom, ni arferai beirdd yr Oesoedd Canol yng Nghymru wisgo mygydau wrth berfformio, ond fe fyddent yn ymgorffori personas archdeipaidd fel Taliesin. Mae rhai yn awgrymu bod y perfformiadau hyn yn rhyw ffurf ar sianelu hynafiaid”. Mae hyn yn awgrymu, er nad arferid gwisgo mygydau efallai, bod hanfod yr arfer o wisgo mygydau—sef ymgorffori hunaniaeth arall wrth berfformio, gan gynnwys ymgorffori hynafiad neu rym ysbrydol/duw—yn rhan annatod o arferion y beirdd.
Gwisgo Mygydau mewn Defodau a Pherfformiadau fel Arfer Fyd-eang
Ar draws diwylliannau, mae mygydau wedi’u defnyddio i ennyn ysbryd hynafiaid, i ymgorffori bodau arallfydol, neu i ymgyrraedd at gyflwr llesmeiriol er mwyn perfformio (fel arfer gyda cherddoriaeth hefyd). Mae’r arfer hon, sy’n gyffredin ar draws y byd, yn awgrymu angen dwfn mewn pobl i gysylltu â’r dwyfol neu’r goruwchnaturiol trwy ddefod ymgorfforedig. Fel noda Gwilym, “nid yw’n hawdd diystyru perfformiadau o’r fath; maent yn sylfaenol o ran yr hyn mae’n ei olygu i fod yn fod dynol.” Mae’r weithred o roi mwgwd yn agor porthol ble mae’r sawl sy’n ei wisgo yn bresennol ac yn absennol ar yr un pryd—cyflwr paradocsaidd sy’n cymylu’r ffin rhwng yr hunan a’r arall.
I mi, mae’r weithred hon yn cynnig iachâd a thrawsnewidiad. Yn ystod fy ymchwil-ymarfer ble rwy’n gwisgo’r mwgwd tebot ac yn perfformio, rwy’n teimlo fy mod yn sianelu grym y tu hwnt i mi fy hun, un y gellir ei harneisio er da ac iachâd. Fodd bynnag, rwy’n cymryd gofal wrth ymgymryd â’r ymarfer hwn, gan gadw’r egni rwy’n ceisio ei sianelu mewn cof. Fy mwriad yw ymgorffori goleuni ac iachâd drwy wir ymwybyddiaeth o undod organig. Yn fy amser yn y stiwdio ac wrth rannu o flaen cynulleidfa, mae’n wir fy mod i’n camu i fyd o gysgodion, gan wisgo fy nhrawma er mwyn gallu ei weld a’i rwygo drachefn, ond nid wy’n gwahodd grymoedd maleisus.
Creadigrwydd a Sianelu yn y Traddodiad Barddol
Roedd y traddodiad barddol, sy’n ganolog i ddiwylliant Cymru, wedi’i wreiddio mewn adrodd straeon ar lafar a pherfformio. Roedd y beirdd a oedd yn perfformio Taliesin yn gyfryngau byw o wybodaeth am yr hynafiaid, yn cynnal a pherfformio testunau’r gorffennol pell. Yn aml câi eu gwaith ei ddisgrifio fel pe bai’n cael ei dywys gan ysbrydoliaeth ddwyfol neu anadl yr ysbryd—cysyniad sy’n cael ei adleisio mewn llawer o draddodiadau. Mae Gwilym yn disgrifio’r broses hon fel “ysbryd yn cael ei anadlu i’r corff wrth i chi berfformio”, trosiad pwerus am greadigrwydd fel gweithred o sianelu rhywbeth mwy na ni’n hunain.
Fel person creadigol, mae hyn yn taro tant dwfn â mi. Mewn eiliadau o lif artistig—boed hynny drwy gyfrwng crochenwaith, paentio, y llais, neu ddawns—rwy’n teimlo’n aml fel petai rhywbeth y tu hwnt i mi fy hun yn llywio’r broses. Mae’r ffenomen hon, sy’n cael ei disgrifio ar draws diwylliannau fel gras dwyfol neu ysbrydoliaeth oruwchnaturiol, yn atgyfnerthu fy nghred bod creadigrwydd yn enedigaeth-fraint, yn fynegiant o’n dwyfoldeb cynhenid. Dim ond trawma sy’n llesteirio’r llif naturiol hwn, yn ein gwahanu oddi wrth y grym creadigol sydd mor hanfodol â’n hanadl.
Paradocs y Mwgwd
Mae’r weithred o wisgo mwgwd yn dyfnhau’r cysylltiad hwn â’r dwyfol, neu ag Annwn. Fel dywed Inih A. Ebong yn Mask and Masking, “Mae’r weithred o wisgo mwgwd yn baradocs ymgorfforedig: mae gan y sawl sy’n gwisgo mwgwd wyneb ac nid-wyneb. Caiff ei drawsnewid gan yr hyn sy’n ei ddad-ddyneiddio”. Mae’r mwgwd yn cuddio wyneb y perfformiwr ac yn datguddio’r goruwchnaturiol. Mae’r cyflwr paradocsaidd hwn—ble mae’r perfformiwr yn bresennol ac yn absennol ar yr un pryd—yn agor porthol. Daw’r perfformiwr yn gyfrwng, gan ganiatáu i rywbeth anweladwy weithredu drwyddo.
Yn y traddodiad barddol Cymreig, mae’r cysyniad hwn o borthol wedi’i adlewyrchu yn y syniad o ymgorffori lleisiau hynafiaid. Mae’n hawdd dychmygu sut gallai beirdd a berfformiai Taliesin deimlo eu bod wedi’u meddiannu gan bresenoldeb y rhai a ddaeth o’u blaen. Yn yr ystyr hon, daw’r mwgwd yn estyniad o’r sianelu hwn—amlygiad corfforol o’r ysbryd anweladwy sy’n treiddio trwy’r perfformiwr.
Mae gwisgo mwgwd fel arfer creadigol yn fy nghysylltu â’r traddodiad dynol byd-eang a’r traddodiad barddol Cymreig o ymgorffori rhywbeth sy’n fwy na chi’ch hun. Pan fydda i’n gwisgo mwgwd wrth berfformio, rwy’n teimlo’n rhydd, yn agored. I mi, mae’r mwgwd yn symbol pwerus o drawsnewidiad, yn bont rhwng y gweladwy a’r anweladwy, ac yn ffordd o gyrraedd ffynnon ddofn creadigrwydd ac iachâd sy’n byw o’n mewn ni i gyd bob un. Mae’n ein hatgoffa ein bod ni’n bobl a bod y dwyfol yn llifo trwom ni, bod gennym y gallu i agor porthol i fyd o hud a lledrith.